Senior Lecturer in Sport, Physical Education and Health at Cardiff Metropolitan University

HomeHealth & Fitness

Senior Lecturer in Sport, Physical Education and Health at Cardiff Metropolitan University

my-portfolio

[ad_1] Location: Cyncoed Campus Job Description Senior Lecturer in Sport, Physical Education and He

Studying the Mechanical Bioeffects of Low-Intensity Ultrasound and its Therapeutic Application in Ophthalmology at UCL
Co-development of a primary care intervention to support patients prepare for pregnancy at University of Southampton
Biomedical Engineering (equivalent to Assistant and Associate Professor) at University of Glasgow

[ad_1]

Location: Cyncoed Campus

Job Description Senior Lecturer in Sport, Physical Education and Health – Welsh.pdf

Job Description Senior Lecturer in Sport, Physical Education and Health – English.pdf

Job description

In 2020, the University was named The Sunday Times ‘Welsh University of the Year 2021’; in 2021 it became the Times Higher Education ‘UK and Ireland University of the Year 2022’; and in 2022 it was ranked the top university in the UK in the People and Planet Green League.

If you have a record of achievement that demonstrates the commitment, aptitude and enthusiasm to contribute to our global learning community through excellent teaching, scholarship, research and innovation, along with a shared passion for our values and vision, we look forward to receiving your application. We are particularly keen to hear from, and to support, applicants who will help develop our research standing and who will enhance the diversity of our university, our community and our partnerships.

The opportunity

Cardiff School of Sport & Health Sciences (CSSHS) has a global reputation for the quality of its teaching, research and innovation in the areas of sport and health sciences. Based across the Cyncoed and Llandaff campuses staff work in partnership with students, industry, health boards, sport national governing bodies and others to deliver employability focused education and impactful research. Research undertaken in the School has a strong applied base and CSSHS is home to several centres of excellence including the Centre for Health, Activity and Wellbeing, the Food Industry Centre, the Youth Physical Development Centre, and the Sport Coaching Hub. 

Principal duties and responsibilities

You will be required to make a significant contribution to the delivery of our taught portfolio contributing to the delivery of BSc Sport Physical Education and Health & MRes Critical Social Sciences of Sport, Health and Education and other areas of our core curriculum depending on your areas of expertise and experience.

Enthusiastic about student-centred pedagogy, you will contribute to education delivery, including programme management as required, across the range of undergraduate and postgraduate programmes. You will also make a significant contribution to employability, and professional engagement with relevant internal and external organisations, at a regional, national and international level. 

You will be expected to contribute to the research profile of the department and to meet the qualitative and quantitative requirements for submission to the next Research Excellence Framework.

What we are looking for

  • An in-depth knowledge of specialist subject and professional area.
  • An in-depth understanding of pedagogy.
  • An in-depth understanding of research/enterprise and scholarly activity.
  • Ability to design, develop and deliver a range of programmes at various levels.
  • Ability to review programme design on a regular basis to ensure compliance with quality standards and academic regulations and to make alterations where appropriate.
  • Ability to contribute to the achievement of the School Development Plan and the institutions strategic planning processes.
  • Ability to develop research objectives, prepare proposals, carry out independent research, referee and contribute to peer assessment.
  • Ability to identify opportunities for strategic development/improvement e.g. research projects, new courses, consultancy.
  • Ability to identify (through the analysis of appropriate management information) areas requiring improved performance e.g. student numbers, student satisfaction.
  • Experience of HE teaching or equivalent.
  • Experience of providing academic leadership and first line support/mentoring for other colleagues.
  • Experience of engaging in pedagogic and practitioner research.
  • A good honours degree.
  • Doctoral qualification.
  • Ability to achieve Fellow Status as part of the Higher Education Academy’s Professional Recognition scheme, within agreed timescales (as soon as is practicably possible and definitely within three years of commencement of employment).

You will be an enthusiastic and friendly professional with excellent communication and interpersonal skills coupled with a commitment to providing an excellent student experience. An established or promising research profile and very good teaching experience on relevant programmes is essential. 

To be successful you will further enrich our students’ experience through your expertise and subject knowledge as evidenced through your qualifications and experience.

If you would like to talk with us about this opportunity please contact Ellen Jones, at emjones@cardiffmet.ac.uk.

Should a high volume of applications be received, we may need to close this vacancy early. We therefore encourage you to apply as early as possible.

The University is committed to creating a highly inclusive culture. We offer family friendly and flexible working arrangements and a range of staff networks, forums and events to support and develop our people. We warmly welcome applications from those traditionally underrepresented in the higher education sector.

Further information

Please read our Candidate Pack or visit our staff recruitment website for information about working for us, our culture, benefits, work-life balance and our career progression and development opportunities.

Lleoliad: Campws Cyncoed

Disgrifiad swydd

Yn 2020 cafodd y Brifysgol ein henwi’n ‘Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021’ gan The Sunday Times; yn 2021 cawsom ein henwi’n ‘Brifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2022’ gan y Times Higher Education ac yn 2022 cawsom ein rhestru fel y brifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd yng Nghynghrair Werdd People and Planet a’r brifysgol orau yng Nghymru yn yr Arolwg Hynt Graddedigion.

Os oes gennych hanes o gyraeddiadau sy’n dangos yr ymrwymiad, y gallu a’r brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang trwy addysgu, ysgolheictod, ymchwil ac arloesi rhagorol, ynghyd ag angerdd a rennir am ein gwerthoedd a’n gweledigaeth, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan, ac i gefnogi, ymgeiswyr a fydd yn helpu i ddatblygu ein statws ymchwil ac a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a’n partneriaethau.

Y cyfle

Mae gan Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd (YChGIC) enw da yn fyd-eang am ansawdd ei haddysgu, ei hymchwil a’i harloesedd ym meysydd chwaraeon a gwyddorau iechyd. Mae staff sydd wedi’u lleoli ar draws campysau Cyncoed a Llandaf yn gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr, partneriaid diwydiant, byrddau iechyd, cyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol ac eraill i ddarparu addysg sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd ac ymchwil sy’n cael effaith. Mae gan ymchwil a wneir yn yr Ysgol sylfaen gymhwysol gref ac mae YChGIC yn gartref i sawl canolfan ragoriaeth gan gynnwys y Ganolfan Iechyd, Gweithgarwch a Lles, y Ganolfan Diwydiant Bwyd, y Ganolfan Datblygiad Corfforol Ieuenctid, a’r Ganolfan Hyfforddi Chwaraeon.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

Bydd gofyn ichi wneud cyfraniad sylweddol at ddarpariaeth ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at gyflwyno’r BSc Chwaraeon Addysg Gorfforol ac Iechyd a’r MRes Gwyddorau cymdeithasol hanfodol chwaraeon, iechyd ac addysg a meysydd eraill ein cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad. Yn frwdfrydig am addysgeg sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, byddwch yn cyfrannu at y gwaith o gyflwyno addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws y casgliad o raglenni israddedig ac ôl-raddedig. Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltu proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. 

Disgwylir ichi gyfrannu at broffil ymchwil yr adran a chwrdd â’r gofynion ansoddol a meintiol ar gyfer cyflwyno i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf.

Beth rydym yn chwilio amdano

  • Gwybodaeth fanwl am y pwnc arbenigol a’r maes proffesiynol.
  • Dealltwriaeth fanwl o addysgeg.
  • Dealltwriaeth fanwl o ymchwil/mentergarwch a gweithgarwch ysgolheigaidd.
  • Y gallu i ddylunio, datblygu a chyflwyno amrywiaeth o raglenni ar wahanol lefelau.
  • Y gallu i adolygu cynllun rhaglenni’n rheolaidd i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau ansawdd a rheoliadau academaidd ac i wneud addasiadau lle bo hynny’n briodol.
  • Y gallu i gyfrannu at wireddu Cynllun Datblygu’r Ysgol a phrosesau cynllunio strategol y sefydliad.
  • Y gallu i ddatblygu amcanion ymchwil, paratoi cynigion, cynnal ymchwil annibynnol, bod yn ganolwr a chyfrannu at asesu gan gymheiriaid.
  • Y gallu i nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu/gwella strategol e.e. prosiectau ymchwil, cyrsiau newydd, ymgynghori.
  • Y gallu i nodi (trwy ddadansoddi gwybodaeth reoli briodol) feysydd sydd angen perfformiad gwell e.e. niferoedd myfyrwyr, boddhad myfyrwyr.
  • Profiad o addysgu AU neu gyfatebol.
  • Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chymorth llinell gyntaf/mentora i gydweithwyr eraill.
  • Profiad o gymryd rhan mewn ymchwil addysgegol ac ymarferwyr.
  • Gradd anrhydedd dda.
  • Cymhwyster doethurol.
  • Y gallu i ennill Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol bosibl ac yn bendant cyn pen tair blynedd o ddechrau eich cyflogaeth).

Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr. Mae proffil ymchwil sefydledig neu addawol a phrofiad addysgu da iawn ar raglenni perthnasol yn hanfodol. 

Er mwyn llwyddo, byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach drwy eich arbenigedd a’ch gwybodaeth bwnc fel yr amlygir gan eich cymwysterau a’ch profiad.

Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Ellen Jones, ar emjones@cardiffmet.ac.uk.

Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.

Mae’r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch ein Pecyn Ymgeiswyr neu ewch i’n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio inni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a’n cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa a datblygu.



[ad_2]

Source link

COMMENTS

WORDPRESS: 0
DISQUS: